cadair1953cadair
[Crn. cadar, Llyd. C. cadoer, Gwydd. C. cathair, bnth. Llad. cathedra]
eb. ll. cadeiriau, cadeirau.
1. a Eisteddle symudol (ar gyfer un person) a phedair coes a chefn iddo, eisteddfa, stôl (yn y De), sedd, gorffwysfa, trifga (fel elf. mewn enwau creigiau, bryniau a mynyddoedd golyga ‘wersyll, caer, amddiffynfa’, hefyd ‘craig neu fryn ar ffurf cadair’, e.e. Cadair Arthur, C. Elwa, C. Idris, C. Facsen, Mynydd-y-Gadair, Pencadair, &c.); cerbyd ar gyfer un person; gorsedd, gorseddfainc, yn ffig. am bennaeth neu arglwydd; gorsedd esgob, swydd ac awdurdod esgob, eglwys gadeiriol; swydd o flaenoriaeth ac urddas, swydd athro prifysgol:
chair, seat (often in place-names); throne, fig. of chief or lord; bishop’s throne, episcopal office and authority, cathedral; seat of precedence or dignity, professorship, &c.
13g. C 415-8, Brenhin guirthvin … Yssi per gadeir gadarnaw.
13-14g. B x. 22, escobavl gadeir.
14g. T 817, wyf bard neuad. wyf kyw kadeir.
id. 348, ys kyweir vyg kadeir yg kaer sidi.
14g. WML 3, y brenhin pan eistedho yny gadeir.
14g. WM 16838, eisted y mywn kadeir wrth y tan.
1346 LlA 102, kadeiryeu y eisteduaeu y kyfeistedo y kreadyr yndunt.
c. 1400 RB ii. 80, [c]adeiry deyrnas.
15g. MA² 504a40-1, y dechrewys Pedyr abostol yn gyntaf gossot y kadeyr yn yr Antyoces (cf. BD 58, y seilyvys Pedyr … eglvys).
16g. (LlEG) Mos 158 630b, kadair y koof arheswm.
1632 D, Cadair, Cathedra; *Cader, Septum, Castrum, locus munitus; ut Cader Idris, Cader Ddinmael.
1658 R. Vaughan: PC [v], Doctor Prideaux Athro r Gadair yn Rhydychen.
18g. WLl (Geir) 270, cader, ymddiffynfa.
1779 M. Williams: BM [16], O Gerbydau 100. O Gadairieu oll i hyrio [sic] 400.
b Crud, cawell:
cradle.
c. 1400 R 115133, a sopen weir. yn lle kadeir.
15g. HS 4, chwerthin arnad oi gadair / chwarau n fwyn a chwi wirion fair.
[1740] D. Llwyd: YDD 124, addolodd y Gwyr doethion ef yn ei gadair.
1798 WR d.g. cradle.
Ar lafar yng Nghered. a Dyfed. Fe’i benthyciwyd yn gynnar i’r S. yn y ff. cader yn yr ystyr hon.
c Crib helm; cawell neu ysgol pladur, sef math o grib neu fframwaith o dair gwialen fwaog wrth bladur yn dilyn camedd y llafn ac wedi eu gosod uwch ei ben, y naill wialen uwchben ei gilydd, er mwyn hwyluso bwrw’r ŷd yn drefnus i’w wanaf:
crest of helmet; a kind of comb or framework fixed to scythe, as in ‘cradle scythe’ or ‘scythe and cather’ (as it is referred to in the Welsh Marches).
14g. YCM 130, yr vn helym oreu … wedy y sawduryaw a rwymaw y ffafneu, a maen kaerbonklus yn y chadeir yn y hardhau ar y gwarthaf.
1814 W. Davies: Agric … S. Wales i. 426, in the south it [the cradle scythe] is called pladur â chawell, and pladur â chadair.
Yn Llŷn arferir cadair am gyrn aradr.
d Bot. a Gardd. Clwstwr, yn enw. o ganghennau neu frigau’n ymestyn allan o’r un boncyff, clwstwr o goesynnau neu ddeiliach yn tarddu o’r un gwreiddyn, sypyn o wellt neu wenith yn tyfu o un gronyn:
cluster, esp. of spreading branches or twigs from one stock, corymb, stool, tillers.
14g. GDG 318, Cilfachau cadeiriau coed.
15g. DE 41, mae dros i iad yn gadair / lliw mil o ganwyllav mair.
16g. (1763) W. Salesbury: LlM 198, bod cadair vlode hwn yn Dewach ag yn gyflownach.
Diw. 16g. WLB 63, kymer gadair or llysse hynn.
Yng Nghered. dywedir bod ‘gwenith yn tyfu’n gadeiriau’ neu’n ‘stolo’, ac yng Ngwynedd a Dyffryn Clwyd fod ‘gwenith yn cadeirio’.
e Pwrs neu biw anifail fel buwch, caseg, dafad, &c.:
udder of cow, mare, sheep, &c.
1731 T. Lewys: BMA 159b, a’u bronnau yn hongian fel cadair Buwch.
1753 TR, cader buwch, a cow’s udder.
1794 W d.g. udder.
2. a Eisteddle i’r pencerdd yn neuadd y brenin neu’r tywysog (yn y Cyfreithiau), yn ddiweddarach yng nghyfundrefn y beirdd y tlws arian ar lun cadair a wisgid ar yr ysgwydd chwith yn arwydd fod bardd naill ai’n bencerdd neu’n athro cerdd dafod neu gerdd dant; eisteddfod neu sesiwn o feirdd taleithiol neu leol (Iolo Morganwg a roes gychwyn i’r ystyr hon), e.e. Cadair Caerfyrddin, C. Gwynedd, C. Morgannwg, C. Powys, C. Tir Iarll, C. y Ford Gron; yn y cyfnod eisteddfodol diweddar o ddiwedd y 18g. hyd heddiw gwobr o gadair bren am awdl fuddugol mewn eisteddfod daleithiol ac wedyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol:
chair for the ‘pencerdd’ in the king’s or prince’s hall (in the Laws), later in the bardic system a miniature silver chair worn on the left shoulder to signify that the bard was either a ‘pencerdd’ or a teacher of ‘cerdd dafod’ or ‘cerdd dant’; a ‘chair’, i.e. a convention or session of provincial or local bards; in the late Eisteddfodic period from the end of the 18c. onwards the chair awarded for the prize ‘awdl’ in a provincial eisteddfod and later in the National Eisteddfod.
14g. WML 33, Sef uyd penkerd. y bard pan enillo kadeir.
c. 1400 RB ii. 334, dwy gadeir a ossodes y vudugolyon yr amryssoneu.
15g. GGl 99, Pwy a ludd iddaw, grudd gwrach, / Roi’r gadair ar ei gadach?
c. 1525 TA 734, Dug ar i ŵn, fal dau grair, / Diwedd gwawd, y ddwy gadair (Lewis Môn).
18-19g. Llr C 34 506, Llyma enwi’r Lleoedd Lle ydd arferai y Beirdd ym Morganwg gynnal Cadair ag Eisteddfod.
18-19g. Llr C 33 57, dosparth ar fesurau … a gadarnhawyd yng Nghadair wrth Gerdd Dafod Beirdd Tir Iarll ym Morganwg.
id. 46, 67, 69.
b Crdd. a c.d. ?Prif fesur neu fesur sylfaenol:
principal or basic metre.
16g. B v. 29, A phwy bynac a fynno ddwyn ariandlws telyn new [sic] grwth; rhaid iddo wybod ei bedair cadeir, ai bedeir colofn.
id. 30, Pob cadair a dal pymp cwlwm bob vn.
a. 1575 GP 117, Pvmp messvr kyffredin a vv orav ar odlav … a Rai a’i geilw hwynt ‘pvmp kadair kerdd davod’.
Cfn.:
cadair a dau: carriage and pair.
c.d. cadair arian: miniature silver chair worn on the left shoulder by ‘penceirddiaid’ and teachers of prosody and instrumental music.
15g. DE 130.
c. 1525 TA 733.
cadair aur: golden bardic chair.
cadair bach: gig.
cadair freichiau, cadair fraich, cadair freichiog: arm-chair, elbow-chair.
cadair buwch, gw. 1. (e).
cadair Caerfyrddin, cadair Fyrddin: silver chair (bardic ornament) of Carmarthen; cock having a double comb or crest.
14-15g. IGE 322.
c. 1595 (Diw. 16g.) Gwyn 3 356.
1755 ML i. 335, cadenfyrddin [sic].
1793 P.
cadair gefn: arm-chair.
Cadair Ceridwen: Ceridwen’s Chair (name of a song).
Bot. cadair Crist: cudweed.
cadair cur: ?chair of torture.
cadair ddarllen: lectern.
cadair ddu: eisteddfodic chair awarded posthumously (lit. chair draped in black).
cadair ddwyfraich: arm-chair.
c. 1765 Y Llofruddiaeth Waedlyd 10.
cadair elinog: elbow chair.
1771 W d.g. chair, a chair with elbows, or an elbow-chair.
cadair esmwyth: easy chair.
cadair wellt: cane chair, straw chair.
cadair wiail: cane chair.
cadair fagu: cradle.
1743 D. Rowland: T 94.
1758 J. Morgan: AL 11.
1772 D. Risiart: HFP 68.
cadair fawr: the big seat or pew (in chapels); armchair.
cadair feirch: carriage and pair, chaise.
1770 TG iv. 10.
1772 W d.g. a chaise.
1794 E. Jones: CP 95.
cadair olwynog: carriage chaise.
cadair bulpud: pulpit.
Cadair Sidi: Sidi’s Chair, magic island in the ocean, according to Celtic mythology.
cadair siglo: rocking-chair.
Cadair Taliesin: Taliesin’s Chair (name of a song).
Cadair Teyrnon: Teyrnon’s Chair (name of a song).
cadair drochi: ducking-stool.
1772 W d.g. ducking-stool.
cadair ymadrodd: pulpit.
1658 R. Vaughan: PS 116.
1704 E. Samuel: BA 159.
[1711] L. Evans: LlW [66].
1740 T. Evans: DPO 325.
1780 W d.g. pulpit.
cadair (o) ystad: chair of state, royal chair.
16g. (1923-4) THSC (At.) 57.
1604-7 TW (Pen 228) d.g. curalis.
Am bardd y gadair, ceiliog (neu grib) cadair Fyrddin, gŵr y gadair, gw. bardd—bardd y gadair, ceiliog—ceiliog cader Fyrddin, crib—crib cadair Fyrddin, gŵr—gŵr y gadair.