rhaff1998

rhaff 

[?cf. Hen Uchel Alm. reif, H. S. ráp (> S. rope)] 

eb. (bach. rhaffan1, rhaffen) ll. rhaffau.

1.  Cortyn trwchus cryf wedi ei wneud o geinciau o gotwm, cywarch, gwifrau, &c., wedi eu cyfrodeddu ynghyd, tamaid hirgul o ddefnydd tebyg i raff neu i’w ddefnyddio fel rhaff, cortyn, llinyn, lein (bysgota), cêbl; rhaff ac ynddi gwlwm rhedeg a ddefnyddir i grogi dyn, cebystr:

rope, cord, string, (fishing-)line, cable; (hangman’s) noose, halter.

13g. LlI 93, Raff bleu (LlB 96, raff vlew) deudec keuelyn.

13g. LTWL 223, nisi in ludo qui dicitur guarae rafan.

13g. Brut B 139, tynnv a gwnaethant a raffev attadvnt y mevn ef.

14g. BT (RB) 238, wedy bwrw raff drwy fenestyr y twr allann a disgynnv ar hyt y raf.

14g. GDG³ 178, Och i’r cloc yn ochr y clawdd / Du ei ffriw a’m deffroawdd. / Difwyn fo’i ben a’i dafod / A’i ddwy raff iddo a’i rod.

c. 1400 R 129139-41, kawldrm hokys llan crockys [diwyg.] crocker rth raff.

c. 1400 CHDd² 56-7, Ki kynneuodic ar vrathu dynyon … y rwymaw a dylyir wrth droet y arglwyd a raff o dwy rychwant.

15g. GLGC 500, a’i theirhwyl yn dri thoryn, / a’i rhaffau oll fal rhyw ffyn.

1547 WS, raff A rope.

1567 LlGG (Sall) 2a, Drylliwn ei rhwymae hwy, a’ bwriwn ei rraffeu y wrthym.

1588 Jos ii. 15, hi [Rahab] ai gollyngodd hwynt i wared wrth raff drwy y ffenestr.

1632 D, Rhâff, Funis, restis.

c. 1762-79 W. Williams: P 107, yna’r Helwyr a ddyfeisiant faglu ei draed ef [eliffant gwyllt] a rhaffau mawrion.

1803 P d.g. Rhâf, Rhafan.

Ar lafar yn gyff.

2.  a  (enghrau. tros. a ffig.:

transf. and fig. exx.).

14g. OBWV 75, Myfi, fun fwyfwy fonedd, / Echdoe a fûm uwch dy fedd / Yn gollwng deigr llideigrbraff / Ar hyd yr wyneb yn rhaff [marwnad Lleucu Llwyd gan Lywelyn Goch ap Meurig Hen].

15g. DE 41, duw a aurawdd y darren / ar vlaen gwallt hir velyn gwen / au llvn val y vaillonen / a rhaffau aur ar ei phen.

16g. GILlV 33, Yr hwn [gwaed] ollyngir yn rhaff / Gwers oerbrudd ar groes hirbraff.

1545 CM 1 541, [y] poerion ynn diueru yn hraffe allan or gennav.

1618 J. Salisbury: EH 256, rhyddau’r enaid honno, oddiwrth glymmæ, a rhaffeu pechod, oeddent yn ei rhwymo.

1621 E. Prys: Ps 2b, A chan y dwfr a red yn rhaff.

1630 YDd 296, deisyfiadau ein eneidiau yn ymddylifo trwy ffydd a’r Yspryd glân, megis trwy raffau cariad nes-nes at ei Sancteiddrwydd ef.

1768 Twm o’r Nant: CTh 33, Mi dd’wedwn raff o gelwydd wrthi.

1778 J. Hughes: BB 155, Nid yw ’r efengyl râff o draethod, / I blant ofer ar flaen tafod.

Ar lafar, ‘’Odd y glaw yn dod lawr yn raffa’, GTN 680.

b  (mewn ymad. megis cael digon o raff, rhoi gormod o raff, &c.). Rhyddid, penrhyddid, cyfle:

freedom, licence, scope.

1757 ML i. 467, Cewch yr hanes ryw dro, nid hwyrach yr ymgrŷg rhai o honynt pei caent ddigon o râff.

18-19g. Llr C 50 295, Welsh idioms, Silurian … Rhoi rhaff iddei feddyliau, ei anwydau, ei chwantau, &c.

1894 D. Owen: GT 76, gall y gynulleidfa ro’i [sic] rhâff i’w theimlad drwy guro traed a dwylaw.

Ar lafar.

Cfn.:

rhaff (yr) angor: anchor-rope, cable, also fig.

14g. GDG³ 13, Da fydd plethiad mad y môr—a’i hirwlych / I herwlong raff angor.

16g. (LlEG) Mos 158 573a, treulior [sic] hraffer angore yn yr hawses.

1547 WS, raff ancor Cable.

1632 D, Rhâff angor, Rudens.

1658 R. Vaughan: PS 210, Gobaith a wna galon gadarngref. Y mae yn rhaff angor iddi ar ddrygcin.

1771 W d.g. Cable, or cable-rope.

Ar lafar ym Môn, am raff ‘yn cysylltu rhaff arall a ddeuai o ben rhwyd … wrth angor allan yn y môr’, B xxv. 54.

rhaff allan: rope attached to the furthest point of a salmon-net.

Ar lafar ymhlith pysgotwyr y glannau, B xxv. 54.

rhaff flaen: foresheet.

20g.

rhaff flew: hair rope.

13g. LlI 93, Raff bleu [sic].

13g. LTWL 152, Raf welew.

14g. LlB 96, raff vlew.

rhaff gerdded: narrow (straw or rush) rope pulled along the length of a haystack to secure the top.

1913.

Ar lafar yn y Gogledd, WVBD 457, B iii. 207, LlLlM 101.

rhaff groes: straw or rush rope pulled across the width of a haystack to secure the top.

Ar lafar ym Mhenllyn, B iii. 207.

rhaff ddirwyn: pulley.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Axiculus, Modiolus … Modiolus Erogatorius.

rhaff lan: shore-rope.

Ar lafar ymhlith pysgotwyr y glannau am ‘y rhaff a gysylltir wrth y pen hwnnw o’r rhwyd a fwrir i’r dŵr gyntaf ac a ddelir gan bysgotwr yn sefyll ar y lan’, B xxv. 54.

rhaff wair: straw or hay rope.

15g. GLGC 228, Gwisgen’ am droed ac esgair / ar eu ffo, gwn, raffau gwair.

Ar lafar yn Arfon, WVBD 457.

rhaff wellt: straw or hay rope, also fig.

1653 MLl i. 193, nid yw rhesymau genau ond rhaffau gwêllt.

Ar lafar yn Arfon, WVBD 457.

rhaff hir: a hundred-yard-long rope attached to the seat of a fishing boat.

Ar lafar ymhlith pysgotwyr afon Conwy, B xxv. 54, J. G. Jenkins: NC 254.

rhaff lwyf: elm-bark rope.

13g. LlI 93.

13g. LTWL 152.

13g. LTWL 152.

14g. LlB 97.

rhaffau men: cart-ropes.

1588 Eseia v. 18.

1630 R. Llwyd: LlH 315.

17g. Huw Morus: EC ii. 150.

rhaff o arlleg: bunch, rope, or string of garlic.

1617 Minsheu 57a d.g. a Bunch of Garlicke.

1632 D d.g. Restis.

rhaff o baderau: string of beads, rosary.

1764 Dewi Nantbrân: CB 78, yn wastad ar ddechreu rhâff o Baderau dywedwch … un Credo, un Pater, a thri Ave.

rhaff o wynwyn: rope or string of onions.

1632 D d.g. Restis.

[1783] W d.g. A rope of onions.

rhaff benbawd: rope made by twisting hay or straw round the thumb, thumb-rope.

Ar lafar gynt ym Môn, rhaff bembawd.

rhaff y pwll: pit-rope.

1909.

Ar lafar yn ardaloedd pyllau glo’r De, B viii. 220.

rhaff rawn: rope made from the hair of horses or cattle.

1761 ML ii. 356, Pe’i bawn i o fywn hyd pigfforch a rhaff rawn atto, mi a awn i gyfarch gwell i’r Periglor.

Ar lafar gynt ym Meir., B xiv. 293.

rhaff risg: bark rope.

15g. LTWL 490.

16g. (c. 1621) CRC 162, Roedd wr or bermo / a rhaffe rhisg gantho.

rhaff sgipio: skipping-rope.

Ar lafar.

rhaff deircainc: threefold cord, three-ply rope.

1588 Pr iv. 12.

1714 D. Lewys: CN 8.

18g. Hop M 313.

rhaffau traws: straw or rush ropes pulled across the width of a haystack to secure the top.

1923.

Ar lafar gynt yn y Gogledd, WVBD 457.

rhaff uchel: (high) tightrope, high wire.

20g.

fel (tynnu) rhaff trwy dwll: easily.

Ar lafar.

Gw. hefyd rheffyn.