tir2000tir
[H. Grn. tir, gl. tellus, Crn. C. tyr, Crn. Diw. teer, H. Lyd. tir, gl. agellus .i. terra, Llyd. C. a Diw. tir, H. Wydd. tír (diryw; bôn yn -s-), Gwydd. C. a Diw. tír: ?o’r gwr. IE. *ters- ‘sychu’; cf. Llad. terra ‘daear’, H. Wydd. tírim ‘sych’]
eg. (bach. tiryn) ll. tiroedd, tiredd, (prin) tirioedd.
Rhan soled arwyneb y ddaear (gthg. môr, awyr), daear, pridd, tywarch; stad, eiddo tiriog; maes, darn helaeth o wlad, ardal, tiriogaeth, gwlad, y ddaear; grwn; hefyd yn ffig.:
land (opp. ‘sea’, ‘air’), ground, soil, turf; estate, landed property; open land, expanse of country, region, territory, domain, country, (the) earth; ridge, selion; also fig.
9g. (LlSC) LL xliii, Surexit tutbulc … dierchim. tir telih.
10g. (Juv) VVB 222, Fundum ir tir.
Dchr. 12g. GMB 7, Terruin am tir, ri reith kywir o hil Morgant.
12g. GMB 73, Taer tertyn asseu taleu treuyt, / Torri calchdoed tiret Trenyt.
12g. GMB 446, Dewi mar ar y mor, mynych noted, / Ry gelwir ar y tir rac dyrthred.
12g. GCBM i. 24-5, Tir greid goryf rac vnbenn, / Tiryon Mon, meillon y morbenn.
13g. LlI 59, try neyt en e tyr (sef yu e tyr eg Kemraec newyd, grun); a myl o’r tyr yu e mylltyr.
13g. GBF 421, Pony welch chi’r mor yn merwina—’r tir? / … / Och hyt attat Ti, Du, na da—mor tros dir!
14g. YBH 47a, A phan gigleu bon hynny grtheb aoruc vdunt a dywedut y gyniuer tiryoed ym gasanaethad .i. y march yndunt.
c. 1400 R 104737-8, Neursylleis olygon ardirion dir. oorsed orwynnyon.
c. 1400 [RB] WM 49916, gedy disgynnu arthur yr tir.
c. 1400 RB ii. 400, Ac am uot arthur yn etiued ar lawer o diroed yn teyrnas ffreinc.
1547 WS, Tir Lande.
1588 Salm xix. 4, I bob tîr yr aeth eu sain hwynt.
16-17g. GST i. 553, Trumen ydyw’r tir yma, / Tarren dost heb un tiryn da.
16-17g. Edward Urien, &c.: Gw 217, Hwn fu pen, hyd ben y bedd, / Gwlad Arwystl a’i gloyw diredd [marwnad Olfir Llwyd o’r Berth-lwyd].
1632 D, Tir, Terra, prædium.
id. d.g. Ager, Fundus, Solum.
1672 J. Langford: HDdD 243, ei Ddâ ef, tan ba air cyffredinol y cynnhwysir ei Dŷ ef, a’i Dîr, a’i Anifeiliaid, a’i Arian, a’r cyffelyb.
1688 TJ, Tîr: Land, an Inheritance, a Farm or Tenement.
1723 WM: PGG [xxvi], Yn lle hyn y mae’n ceisio arwain pòb Enaid i Dîr uniondeb, gan ddangos iddynt Lwybrau hyfryd yr Efengyl.
1752 G. Owen: L 12, ’rwyf yn dal rhyw ychydig o Dir.
1803 P, Tîr, s. m.—pl. t. oz … Land; earth, soil, ground.
Ar lafar yn gyff., WVBD 533, GTN 796.
Digwydd fel elf. mewn e. lleoedd, e.e. Tirymynach (pl., Cered.).
Cfn.:
tir a daear, &c.: land and earth, lands.
12g. LL 120, yholl cyfreith didi hac dy thir. hac di dair … ythir hay dayr dy luyd.
13g. BD 93, ac a rodeist ym eisteduaeu amyl ehalaeth o tir a dayar.
14g. WM 713-16, A fob un o honunt yssyd halr ar y gilyd a hynny am dir adayar.
16g. (LlEG) Mos 158 26a, Ynn yr amser I gwnaeth pendeuigi/on normandi wriogaeth I William dros dros [sic] diroedd a deiery/dd a chyuoythydd normandi.
tir yr addewid, tir y gaddewid: land of promise, promised land.
1567 TN 339b, Trwy ffydd yr arosawdd ef yn tir yr addewid, megis yn lle dierth.
1595 H. Lewys: PA 71, sef pann ddelent i dir y gaddewid na allent ddoedyd, fyngallu i fy hun.
y tir a’r môr: land and sea.
c. 1400 R 129443.
1618 J. Salisbury: EH 20.
tir aeriaeth: hereditary estate.
tir agored: open country, unenclosed land.
tir âr: arable land.
14g. WM 14528-30, agastat ydyffryn oed yn weirglodeu. athired ar.
c. 1400 R 134540-1, bloedleidyr twr ereidyr tir ar blif bleidyeu rochgeu rech gar.
15g. OBWV 117, Grut oer yw gweryd tir âr, / Gweren dew ar groen daear.
1604-7 TW (Pen 228), tir âr d.g. Aphaca.
1803 P, Tîr … tir âr, arable land.
Ar lafar.
Gw. hefyd ardir.
tir aradwy: arable land.
tir aredig: arable land, fallow (land).
1547 WS, Ar tir aredic, Fallowe.
tir awdud: crown land.
tir bei-howlt: land let or held for one year.
Ar lafar, ‘Tir-bei-howlt’ ‘Land held for one year. A farmer who has too much land for his own use, or who is “gone back in the world,” is obliged to let his spare land, and he usually does so by auction about Michaelmas. This is called tir-bei-howlt’, GDD 300.
y Tir Bendigaid: the Holy Land.
1593-6 Brog 15 384, Awrelianys a wnaeth ermes y tir bendigaid.
1728 T. Baddy: DDG 4, anialwch Arabia, yr hwn yr oedd yn rhaid i mi fyned trosto, cyn y gallwn ddyfod i’r Tir bendigaid.
tir bord, gw. tir bwrdd.
tir breiniol: privileged or allodial land.
13g. GDB 255, Gwenwyn yn amwyn am dir breinnyal Powys.
1793 P, Breiniawl … Tir breiniawl, land free from rent, or service.
tir bwrdd, tir bord, tir y ford: bord-land, demesne, mensal land.
13g. LlI 62-3, Maer e bysweyl … a dele tegu tros tyr burd e llys a’e hauottyr.
14g. GIG 47, A’i dir bwrdd a’i adar byw, / Peunod, crehyrod hoywryw.
a. 1561 B vi. 46, pa gymaint y sydd yn dir bord ytt, a ffa sawl erw o borfa.
1632 D, Tir … Tir bwrdd, Terra mensalis.
1770 W, tîr bord, tîr y ford d.g. Bord-lands [lands which lords keep in their hands for the maintenance of their board or table].
1803 P, Tîr … tir bwrz y llys, land for the table of the palace.
Gw. hefyd byrdd-dir.
tir byw:
(i) solid earth, earth or land that has not been loosened or stirred; virgin soil or land.
c. 1400 B ii. 12-13, kanys or keiff yr aradwr llet deuwys or tir byw yna y byd diogel yr hat … os kwys lydan a erdy ac adaw y tir yn uyw y rygtunt. twylleist y tir a cholleist yr hat … yr oget a tynn yr hat yr tir byw.
15-16g. TA 164, Torri brig y tir byw ’r wyt, / Tarw o frud trwy fôr ydwyt [i Hywel ap Gruffudd ap Rhys].
(ii) earth above ground floor level near to or touching the wall of a building.
Ar lafar, ‘tir byw’ ‘daear fyw’ (gogledd a chanolbarth Cered.).
tir y byw(ion), tir y rhai byw(ion): land of the living.
1567 LlGG (Sall) lxvia, Rodiaf rhac bron yr Arglwydd, yn-tir y bywion.
1588 Eseia liii. 8, ef a dorrwyd o dir y rhai byw.
1655 WL: DP 83, fal y moliannwyf di etto yn nhîr y rhai bywion.
1743 D. Rowland: T 29, Tîr y Byw yw Tîr Gobaith.
1789 PMP [2], Mae ef etto ar dir y byw.
Ar lafar, ‘Mae’n dal ar dir y (rhai) byw’.
tir caeth: bond-land, also fig.
c. 1400 R 13091-2, Deu ogennadeu gynnyon ydynt dir kaeth lloegyr aaeth boet ffraeth ffrythynt.
tir canol: middle or neutral ground.
19-20g. SE, Canol … Tir canol, neutral ground.
tir caregog: stony soil, also fig.
1567 TN 20a, Ar ei [had] a gwympodd ar dir caregog, lle ny chawsant vawr ddaiar.
Ar lafar.
tir claddu: burial ground.
tir coch: arable, ploughed, or tilled land; dry or barren land; reddish soil.
1936.
1941 D. J. Williams: STC d.d., Storïau’r Tir Coch.
Ar lafar, ‘tir coch’ ‘ploughed land, tilled land’ (canolbarth a godre Cered.); ‘tir coch’ ‘lle y mae’r pridd yn gochlyd’ (dwyrain Morg.); ‘tir coch’ ‘dry, barren land’, WVBD 533; ‘tir coch’ ‘ploughed land’, TGG (1907-8) 90 (de-orllewin sir Gaerf.); ‘tir coch’ ‘land that has been ploughed before’, GTN 796.
tir coed: wooded land.
13g. LlI 58, tyr coet; wyr euelly.
tir coedwyr [?ffrwyth camddeall LlI 58, tyr coet; wyr euelly]: land cleared of trees and ploughed.
1730 Leg Wall 584, Tir coedwyr, Arvum quod ex silva caedua sit.
1753 TR, Tir … Tir coedwyr … plowed land where wood had been cut down.
tir comin: common or unenclosed land.
tir corflan (corddlan): nuclear land, hamlet land.
13g. LlI 58, Tyr cordlan (amr. coflan [sic], corthlan) ny deleyr eu rannu herwyd tydynneu namen herwyd gardeu.
tir cornchwiglen: wet or poor land.
Ar lafar yn sir Ddinb.; cf. LlG xlviii. 13, Tir Cornchwiglen. Tir gwlyb, gwael. Arferid dweud … yn ardal fynyddig Pentrellyncymer na chynhaliai ambell dir dair cornchwiglen. Rhaid oedd i un farw er mwyn i’r ddwy arall gael digon o fwyd i fyw!
tir y goron: crown land.
tir crai: fertile land.
Ar lafar, ‘tir crei’ (sir Drefn.).
tir cras: dry land.
1588 Salm cvii. 35, Gosododd yr anialwch yn llynn dwfr: a’r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.
Dchr. 17g. J 10 156b.
Ar lafar yn yr ystyr ‘tir caled yn cynnwys mwyn a chwar’, Geir Glo 58 (dwyrain Morg.).
tir cryf: rich or fertile land.
Ar lafar, ‘tir cry’’, WVBD 533.
tir cyd: common land.
Dchr. 14g. AL i. 760, Pob tir kyt adylyir y gynhal all ac a da.
15g. LHDd 82, Tir kyd hagen ef a ellir y rany a nai.
1730 Leg Wall 584, Tir cyd. Idem quod Cyttir cenedl.
1778 W, tîr cŷd d.g. Parceners … To hold land in parcenery.
Gw. hefyd cytir.
tir cydiol, tiroedd cydiol: continent, mainland.
1725 SR, Y Tir cydiol d.g. The Main Land.
1762 D. Rowland: PA 134, gwahanu … ynysoedd oddi wrth y tîr cydiol.
id. 135, yn ymmyl y môr yn agos i’r tir cydiol … Yr achos o fod ynysoedd iw [sic] cael gerllaw’r tîr Cydiol.
1799 TY 44, yn preswylio yn y rhan fwyaf o’r tir cydiol hwn.
tir cyfrif: ‘reckon land’, geldable or copyhold land, a non-hereditary unfree tenure.
13g. LlI 54, a rody e paub kystal a’e gylyd en e tref; ac urth henne e gelwyr en tyr kyuryf.
13g. D Col 18, Ny deleyr talu tug o tyr kyfryf; sef achaus na deleyr, urth na deleyr cuynos ohonau. … Ny byt erv dyffodedyc en tyr kyfryf, cany dely neb prenhu [sic] erv e vab y gylyd. Keureyth tyr kyfryf ev na bo muy ran un gur no’e gylyt o’r tyr.
c. 1400 AL ii. 64, Un mab nyt reit ida arhos agheu y dat yr estynnu tref y dat ida: mab gr o dir kyfrif.
1753 TR, Tir … Tir cyfrif … land liable to pay yearly rent to the king; a servile tenure, tenure in villenage.
1803 P, Tîr … tir cyvriv … land liable to a tax or rent, copyhold land.
tir cyffredin: common land, fig. common ground.
14g. LlB 76, Or byd tir rwg gwelygord heb rannu, kyn bwynt meirw oll, eithyr vn dyn, yr vn hwnnw a geiff y tir kyffredin oll.
tir cyllidus: geldable or copyhold land, a non-hereditary unfree tenure.
13g. LlI 54, Tyr kyllydus hagen ny deleyr e rannu herwyd brodyr namen maer a chyghellaur a deleant e rannu.
1753 TR, Tir … Tir cyllidus, land liable to pay yearly rent to the king.
1803 P, Tîr … tir cyllidus, land liable to a tax or rent, copyhold land.
tir cynnif: ?acquired land.
13g. LlI 50, ny dele kemryt tyr kennyf en lle pryodolder.
14g. Cy xvii. 136, Nyt a ebedi yn ol tir kynnif.
14g. (17g.) AL ii. 658, ac am bob llythyr egoret am dir a daear a wnel lle rhoddo y brenhin dir cynnf [sic] pedeir ceinioc a geiff.
1730 Leg Wall 584, Tir cynnydd, vel cynnyf, Terra crescens. Dicitur de fundis quorum possessores nondum proprietarii evaserunt.
tir cynnydd: ?acquired land.
1334 HD 203, Wele Griff’ ap Mereduth’, redd. per annum de Tung’… Et nulla alia servicia faciunt quia Tyrkennyth a tempore Principis Lewelini ap Ior’ vt dicunt.
15g. AL ii. 422, trydyd y dyn a dyly ystyn o dir kynyd a enillo tryda ehyn.
15g. ID 76, drwg gennyv o dir kynnydd / na bai rent ir neb ai rydd.
1730 Leg Wall 584, Tir cynnydd, vel cynnyf, Terra crescens. Dicitur de fundis quorum possessores nondum proprietarii evaserunt.
tir chwâl: friable or light earth.
Ar lafar, ‘tir wæl’ ‘easily broken up soil’, GTN 797.
tir dawn: gift of land to a church or monastery.
12g. GCBM ii. 34, Krynei Uaes Carnet rac carnnyal y ueirch, / Rac taryf diheueirch tyweirch tir dan.
13g. Brut B 80, a’r tyr a’r dayar a’r kyvoeth a oed kynt em medyant e gevdwywev gynt a emchwelvs entev en arver oed gwell … ac a’e kanhyadvs en tyr davn tragywydavl y Dyw a’r sseynt.
1346 LlA 151, Agerdych ygyrchu offeren sul bot yn gystal itt aphei as roditt odref dy tat yn dirdan ydu.
1604-7 TW (Pen 228) d.g. donatus.
tir diffaith: waste land.
14g. LlB 70.
14g. WM 6319-11, ac ykerdawd [Peredur] an/vedred odir diffeith heb dim kyvan/ned.
15g. Pen 191 16, Myn tir diffaith didfyr.
Mae Y Tir Diffaith (1946) yn enw cyfrol gan Aneirin Talfan Davies.
Gw. hefyd diffeithdir.
tir diffoddedig: escheated land, land escheated to the king for lack of an heir.
13g. (LlDW) ZCP xx. 94.
1730 Leg Wall 584.
1753 TR.
1803 P.
tir dilys: undisputed land.
tir eglwys: church land, glebe.
13g. LlI 53, Nyt cayedyc keureyth am tyr egluys un amser erygthunt ehun.
14g. LlB 70, Pan dechreuher kynhen am teruyn tired … os yrwg tir eglwys a thir y wlat, eglwys a teruyna.
1753 L. Owen: ADdE 2-3, [y] … [T]îr-Eglwys a roddwyd gan Bobl dduwiol er amser allan o goffadwriaeth.
1810 T. Lewis: HPF 70, canys rhoddodd y tiroedd-eglwys yn yr un sefyllfa â thir arall.
tir eglwysig: church land, glebe.
tir fel y gloch: hard land.
Ar lafar, ‘tir fel y gloch’ ‘tir caled, solet’, Geir Glo 58 (sir Gaerf. a Morg.).
tir y gaddewid, gw. tir yr addewid.
y Tir Glân: the Holy Land.
14g. BT 206, Blwydyn wedy hynny yr ymchwelawd yr arderchawc lywis vrenhin freing o gaer vssalem wedy y vot yny tir glan chwe blyned.
14g. GIG 3, Od ei Roeg mae darogan, / Darw glew, y ceffi Dir Glân.
tir glas: grassland.
1853 W. Rees: AFR 29, yn disgyn ar ei gefn ar y tir glas, amryw droedfeddi o’r fan.
Diw. 19g. SE MS 47a, Tir glas—green sward; leyland (S.W.).
1936 D. J. Williams: STG d.d., Storïau’r Tir Glas.
Ar lafar yn gyff., ‘tir glas’ ‘land covered with grass, turf, lawn’, WVBD 533; hefyd yn yr ystyr ‘carreg neu graig a ffurfiwyd o glai, carreg glai’, ‘’Ôn’ nw’n myn’ drw’r garreg a ’ôn’ nw wedi cal y tir glas’ (gorllewin Morg.); ‘tir glas’ ‘tir a oedd yn hawdd i’w gael i lawr; ffurfiai dop nad oedd mor galed â thop cwar’, Geir Glo 58 (sir Gaerf. a Morg.).
Gw. hefyd glastir, tirglas.
(y) tir golau: (the) open (countryside), also fig.
1684 T. Jones: GG 11, Nes datguddio cyn pen hîr / Y gelen i dîr gole.
1791 Dafydd Ddu: A 20, Mae’n puro ’r eglwys mewn per aroglau, / O’r lli a’r godwrdd, a’r holl rwygiadau; / Duw mawr tramawr dettyd rwymau—hên ragrith, / Er tarò y gaulith i’r tir golau [i ryddid].
tir gores, tir gorest, tir ores(t): unenclosed or waste land.
1753 TR, Gores, and Gorest … Tîr Ores, waste ground, land not well inclosed and fenced.
1803 P, Gorest … Tîr orest, waste land.
tir gwan: infertile land.
Ar lafar yng nghanolbarth a godre Cered.
tir gwely: land held by free tenure under which it passed to the sons, &c., on the holder’s death, ‘gwely’ land.
tir gwelyog: land held by free tenure under which it passed to the sons, &c., on the holder’s death, ‘gwely’ land.
13g. LlI 54.
1730 Leg Wall 584, Tir gwelyawg, Terra libera, inter fratres, vel consobrinos, vel consobrinorum filios dividenda.
1753 TR, Tir gwelyawg … freehold land to be divided between brothers or cousin-germans, or the sons of cousin-germans.
1803 P, Tîr … tir gwelyawg, land held by gavel kind.
tir gwndwn: uncultivated land, fallow land, ley, lea-land, grassland.
tir gwrthgiliad: state of apostasy.
tir gŵydd: uncultivated land, scrub land, fallow land, ley, lea-land, also fig.
13g. LlI 58, Brynar, due ulyned e deleyr y eredyc … tyr guyd, wyr yuelly.
14g. GIG 98, Deryw’r gerdd, aeth yn dir gŵydd / Uwch yr Eifl—och o’r aflwydd [marwnad Ithel Ddu].
c. 1400 CHDd² 97, Or deruyd bot yrwng deu gyfarwr amrysson am dir gwyd ac arall ffaeth, a’r neill yn mynnu eredic tir gwyd, a’r llall yn mynnu peidyaw a’e eredic.
1604-7 TW (Pen 228), tir gwydh d.g. Nouale.
1775 W, Tîr gwydd d.g. Lay, lay-land, land in lay, or lay-ground.
1803 P, Tîr … tir gwyz … wood land turned into arable.
tir gwyllt: waste land, wilderness, uncultivated land, also fig.
15g. ID 82, davgi taer gweiddi tir gwyllt / dyhvnwyr karw dv henwyllt.
15-16g. TA 96, Y tir gwyllt, natur gwalltan, / Heddychol yw heddyw achlân.
18-19g. MA iii. 305, Tri rhydd cenedyl … mesori tîr gwyllt.
Ar lafar, ‘tir gwyllt’ ‘land which has never been cultivated’, WVBD 533; ‘tir gwyllt’ ‘a wilderness; neither pasture nor cultivated’, GTN 796.
Gw. hefyd gwylltir.
tir gwystl: land transferred by ’prid’.
15g. GLGC 418, Yr eryr o war Arwystl, / aur a gostia ar dir gwystl.
16g. GSC [52], On’d da i’r gwestwyr, tir gwystl, / Yw Tŵr Eryr tir Arwystl?
tir hafog: (dict.) common land.
1803 P d.g. Havawg.
Gthg. GLGC 220.
tir iâl: open land, (cultivated) upland.
tir llafur: arable or ploughed land.
1545 Elis Gruffydd: Ll 62, Yr hwn a elwir ynn Saesneg brudisnest, ac eraill a’i gejlw ef y ttanck mwyaf … Ac y vo yuo a dyff mewn meusudd a thiroedd llauur.
16g. LlS 24, Tyfy a wna yr llyseun hwnn [llysau Simeon] mewn tir llafur bras cypheithlyd.
1588 Pr v. 8, wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.
c. 1730 Thos. Lloyd D (LlGC) 157b, Tir Llafur. Plow’d land.
Ar lafar, ‘tir llafur’ ‘tilled land’, WVBD 533.
Gw. hefyd llafurdir.
tir llan: church land, glebe.
13g. LlI 43, Pob perchennauc tyr llan a deleant deuot ar pob brenhyn newyd a del, e datcanu ydau ef eu breynt ac eu delyet.
1632 D, Tir … Tir llan, Terra ecclesiæ dicata.
1753 TR, Tir … Tir llan, glebe-land or church-land.
1772 W d.g. Church-lands, Glebe, or glebe-land.
1803 P.
Gw. hefyd llandir.
tir y lleuad [gw. GDGor 84]: epithet used for England, Wales, and Ireland together; ?also for Turkey.
15g. GDGor 39, Darlleais o dir y lleuad / Darian lew o’r dwyrain wlad.
Dchr. 17g. B xxi. 330, daw mab y dyn nid amgen no brenin Lloegyr yn dwyn yn i arve tri anivail gwyllt nid amgen no thri llew yr hwn a heinw o dir y llevat nit amgen Kymrv a Lloegyr ag Ywerddon.
tir llwyd: land containing fireclay.
Ar lafar, Geir Glo 58 (sir Gaerf.).
tir maerdref, tir y faerdref: land of the ‘maerdref’, demesne land.
13g. LlI 54, dely maer y bysweyl e wneythur [rhannu tir] am tyr e uaertref, can adael paub en e tedyn herwyd y gallo oreu.
13g. LlDW 6515-16, y duydrew a dyly bot yn reyt brenhyn. Vn onadunt adyly bot yn tyr maertrew.
1753 TR, Tir y Faerdref … the king’s demesne lands.
1803 P.
tir mân: difficult place to work because of fragmented rock (in a slate-quarry).
Ar lafar yn ardaloedd y chwareli llechi, B xx. 382.
tir marl: land rich in marl, productive land, fertile soil, also fig.
15g. DN 16, Lled a hyd holl Deheudir, / Erw nid oes heb rann o’i dir. / Ac etto y dwc atvn / O dir marl deirerw am vn [i ofyn i Bedrog yrru’r tywod o’r Tywyn].
15g. Gwilym Tew: Gw 474, Wrth dir marl mae’n daly parlment / Ym mrig, y mwyaf ei rent [mawl i Edmwnt Malffawnt].
id. 490, Cnith am Siancyn a Tomas, / Cyfiawnder lawer a las. / Un chwedl ac un genedl gynt, / Un ferw dydd, un fryd oeddynt; / … / Un rhif â doethion Rhufain, / Un dir marl mewn daer a main.
15g. Pen 57 38, Dvw a roes nyt eryssi / ytt yr ystat wttres di / Athir marl atherm o oes / A dawn ddiwedd dy einoes.
a. 1561 B vi. 48, os tir marl vydd, ardd ef yn ddyfwn, kans natyr y marl yw kodi a natyr y dom yw gostwng oherwydd anian.
Gw. hefyd marldir.
tir mawr: mainland.
15g. HCLl 128, Swmbwl ynys a’m blaenawr, / Syr Water, moes o’r tir mawr.
16g. (LlEG) Mos 158 486b, hrwng y tir mawr ar draethell.
1604-7 TW (Pen 228), tir mawr d.g. prymnesium.
tir montais: higher ground.
Ar lafar, ‘Tir montish’, LlGC 1171 43 (Morg. a Myn.).
tir neb: no man’s land, also fig.
tir nerthol: rich or fertile land.
tir oer: wet, undrained land.
tir ores(t), gw. tir gores.
tir porfa: grazing or pasture land, grassland.
tir pori: grazing or pasture land, grassland.
1850.
Ar lafar, WVBD 438-9, 533.
tir prid: land transferred by ‘prid’.
15g. GLGC 128, Y gŵr â’r swyddau lle gorseddid / a esyd ei aur a ystorid, / ar gestyll hefyd er a gostid, / ac ar dyrau praff ac ar dir prid [i Henri ap Gwilym].
15g. GGl² 197, O chollais rent a chyllid, / Aeth i’r pridd aur a thir prid.
16g. AP 10, Ni cheissiaf na thir prynn, na thir prid.
1632 D, Tir prid d.g. Antichresis.
c. 1730 Thos. Lloyd D (LlGC) 196a, Tir Prid. Mortgaged land … Antichresis.
tir y promision: land of promise, promised land.
c. 1400 (SG) HMSS i. 362.
tir prŷn (pryn): purchased land.
15-16g. TA 220, Prifiaist ymhob rhyw ofyn, / I roi d’aur praff ar dir pryn.
16g. AP 10, Ni cheissiaf na thir prynn, na thir prid.
1588 Lef xxvii. 22, os ei dîr prynn yr hwn ni bydd o dîr ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd.
16-17g. (17g.) CC 382, Da aeth i ti doeth at honn / tir hefyd devtv r afon / tretad y tir vt ydoedd / a thir prynn at hynn vt oedd (Huw Machno).
c. 1730 Thos. Lloyd D (LlGC) 195b, Tir Pryn. Puchased land.
1794 E. Jones: CP 33, a thrigfanu o hono ynddo ddeugain niwrnod, a ennill iddo sefydlfa, dan ammod mewn tîr prŷn.
tir y rhai byw, gw. tir y byw.
tir rhydd:
(i) free land, freehold land.
15g. GLGC 402, Paradwys i bob prydydd / yw tai y rhain a’u tir rhydd [i Ddafydd ap Meredudd ac Efa].
Diw. 15g. Pen 41 19, Pan holo dyn dir ryd ar a vv gynt yn llaw i dat.
(ii) light or soft soil.
Ar lafar, WVBD 533, B xx. 382.
y Tir Sanctaidd: the Holy Land.
1588 Doeth Sol xii. 3.
1728 T. Baddy: DDG 74.
tir sied: escheated or forfeited land, also fig.
14g. GDG³ 425, O ganmol serch ugeinmerch / Yn dir sied y deryw serch [marwnad Dafydd ap Gwilym gan Fadog Benfras].
tir swch a chwlltwr: arable land, perhaps as a form of unfree tenure; (dict.) ‘tir cyfrif’.
13g. LlI 58-9, yd a alltudyon e meybyon uchelwyr en petwaregur en pryodoryon … Guedy buynt pryodoryon huenteu eu tydynneu a edyr udunt herwyd e delehoent, ac eu tyr amyn henne en tyr such a chulltyr erygthunt.
1730 Leg Wall 584, Tir swch a chwlldr, Idem quod Tir cyfrif.
1753 TR, Tir … Tir cyfrif … land liable to pay yearly rent to the king; a servile tenure, tenure in villenage … It is also called Tir swch a chwlltr.
1803 P, Tîr … tir swç a çwlltyr, land under socage tenure.
tir sych: dry land, shore, also fig.
15g. FfBO 43, ac o’r mor y neittyant y’r tir sych y’r lann.
16g. B xi. 28, Ac ynna J kymerth Erkwlf y vorwyn erbynn J llaw, ac a’i tywyssodd hi o’r dwuyr J’r tir sych.
1588 Ecs xiv. 16, aed meibion Israel trwy ganol y môr a’r [sic] dîr sych.
1803 P, Tîr … Tir syç, syçdir, dry land.
1881 D. Owen: D 222, Wedi i mi gael rhoi fy nhroed ar dir sych, cefnais ar y capten caredig.
Gw. hefyd sychdir.
tir ton: uncultivated land, fallow land, ley, lea-land, upland pasture.
1775 W, tîr tonn d.g. Lay, lay-land, land in lay, or lay-ground.
18-19g. Llr C 2 341, Tir tonn, upland pasture.
Gw. hefyd tondir.
tir tro = tir âr.
tir tyn: clayey soil, heavy ground.
tir uchel: highland, high ground.
Gw. hefyd ucheldir.
tir wast: waste land.
c. 1872.
Ar lafar, GTN 842.
ar dir: from the point of view of, on grounds of, from a … standpoint, on a … basis.
ar y tir: on the basis.
1923.
1975 R. E. Jones: LlIC 288, Dadleuai Mr. Jones na ddylid penodi neb i’r swydd ar y tir nad oedd ymgeisydd cymwys.
ar dir i: in a position to, eligible to.
ar yr un tir: in the same situation, on an equal footing, on a par.
1872.
1975 R. E. Jones: LlIC 288, Mae pawb ar yr un tir ger bron y gyfraith.